Tag Archives | Plant

Sesiwn Llysgennad Dy Gynulliad Imogen

Sesiwn Llysgennad Dy Gynulliad – Imogen o 5ed Guides Llanisien, Caerdydd.

Fy enw i yw Imogen Blacklidge ac rwy’n aelod o 5ed Guides Llanisien. Yn ystod y gwyliau hanner tymor fis Chwefror diwethaf, es i Froneirion sef pencadlys GirlGuiding Cymru a chymryd rhan mewn sesiwn Llysgenhadon Dy Gynulliad o dan arweiniad Caryl Hughes. Gwnaethom ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gwleidyddiaeth Cymru. Roedd y sesiwn yn […]

Darllen mwy

Llysgenhadon Dy Gynulliad – Senedd Myfyrwyr Pentrehafod

Dysgu ar Safle Adeiladu Mae ein hysgol yn un sy’n parchu hawliau, felly mae llais y myfyrwyr yn bwysig iawn. Mae gennym Senedd Myfyrwyr, lle mae myfyrwyr yn cael eu dewis, drwy etholiad, i gynrychioli eu cyfoedion yng nghabinet y myfyrwyr. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ni gan fod ein hysgol yn cael […]

Darllen mwy
Eleanor a disgyblion Ysgol Licswm

Llysgennad Dy Gynulliad – Eleanor o Girlguiding Cymru

Helo, fy enw i yw Eleanor. Rydw i’n 14 oed ac yn byw ym Maes Glas, gogledd Cymru. Ym mis Chwefror, mi es i Froneirion sef Pencadlys Girl Guiding Cymru. Dysgais am bethau fel gwyddoniaeth, chwaraeon a meddygaeth ond fe wnes i hefyd ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar 15 Mehefin mi es i fy […]

Darllen mwy

Llysgenhadon Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Albany

Shwmae Cymru! Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Ysgol Gynradd Albany yn y Rhath, Caerdydd. Ar hyn o bryd rydym yn cymryd rhan mewn llawer o brosiectau i helpu i wella ein hysgol. Ein prosiect diweddaraf oedd paratoi holiadur yn gofyn i ddisgyblion Ysgol Albany sut y maent yn teimlo am addysg a’u profiadau dysgu. Mae pob […]

Darllen mwy
A junior school council

Llysgenhadon Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Gynradd Wirfoddol Cleddau Reach

Shwmae! Rydyn ni’n aelodau blwyddyn 6 o Gyngor Ysgol Cleddau Reach. Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd gan ein Cyngor Ysgol ynghylch sut i wella ein cymunedau lleol. Yfed yng Nghymru Rydyn ni’n credu’n gryf na ddylai neb yng Nghymru gael gyrru ar ôl yfed alcohol. Os yw pobl yn yfed rydyn ni’n credu y […]

Darllen mwy
Lauren a'r Brownies yn ystod y sesiwn

Llysgennad Dy Gynulliad – Lauren o Girlguiding Cymru

Fy enw i yw Lauren Kerr ac rwy’n aelod o’r Senior Section sy’n rhan o Girlguiding. Rwyf wedi bod yn aelod o Girlguiding ers 8 mlynedd ac yn ystod yr amser hwnnw rwyf wedi cael llawer o brofiadau ac wedi dysgu sgiliau newydd ar hyd y ffordd. Yn ystod hanner tymor mis Hydref y llynedd, […]

Darllen mwy
Collage o bobl ifanc yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Cynulliad

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg newydd y Pumed Cynulliad wedi penderfynu mai gwaith ieuenctid fydd testun ei ymchwiliad cyntaf, a hoffai’r pwyllgor wybod beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am wasanaethau ieuenctid yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, a gallwch ddweud eich dweud drwy gwblhau’r arolwg yma: […]

Darllen mwy

Gordewdra yng Nghymru

Mae canlyniadau Arolwg Iechyd Cymru 2015 yn dangos bod 24% o oedolion yn y categori gordew a 59% o oedolion yn y categori rhy drwm neu ordew. Mae’r ffigurau ar gyfer oedolion rhy drwm a gordew yn cynyddu yn ôl lefel yr amddifadedd, o 54% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i 63% yn yr ardaloedd […]

Tagged with: , ,
Darllen mwy

O ddiddordeb? Heb eu gweld na’u clywed?

Pa mor amlwg fydd buddiannau plant a phobl ifanc yn y Pumed Cynulliad? Mae’r adran ymchwil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi erthyglau ymchwil ar lu o faterion. Dyma rai o’r erthyglau a fydd, efallai, o ddiddordeb i chi. Ar 17 Mai 2016 cyhoeddwyd blog yn amlinellu pa mor amlwg fydd buddiannau plant a phobl […]

Tagged with: ,
Darllen mwy
Kelly Harris Collage

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2016 – “Pam rwy’n gwirioni ar waith ieuenctid” gan Kelly Harris

Erthygl wadd gan Kelly Harris – Swyddog Ymgysylltu ag Ieuenctid Fy swydd i, yn gryno, yw gweithio gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru i roi gwybod iddynt am y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ennyn eu diddordeb yn ei waith ac esbonio sut y gallant fod yn rhan ohono. Rwy’n gwirioni ar y gwaith. Mae’n […]

Darllen mwy
Lluniau o bobl ifanc ar draws Cymru

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2016

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd Cymru yn dathlu’r gwaith ieuenctid rhagorol sy’n digwydd ledled y wlad – cyfle i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc a chyfle i ddathlu’r gefnogaeth a gânt gan weithwyr ieuenctid pwrpasol. Mae’n gyfle perffaith i Wasanaeth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad dynnu sylw, drwy gydol yr Wythnos Gwaith […]

Darllen mwy
Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS).

Pam mae Etholiad y Cynulliad yn bwysig i mi? – Paul Glaze

Wrth i Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar 5 Mai, agosáu, rydym wedi gofyn i Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), a’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, i ateb cwestiwn o bwys – “Pam mae Etholiad y Cynulliad yn bwysig i chi?” Dyma beth ddwedodd Paul Glaze: Pam mae Etholiad […]

Darllen mwy
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Pam mae Etholiad y Cynulliad yn bwysig i mi? – Yr Athro Sally Holland

Wrth i Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar 5 Mai, agosáu, rydym wedi gofyn i Paul Glaze, Prif Weithredwr, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), a’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, i ateb cwestiwn o bwys – “Pam mae Etholiad y Cynulliad yn bwysig i chi?” Dyma beth ddwedodd Yr Athro Sally Holland: Pam […]

Darllen mwy