Tag Archives | democratiaeth

Alice a Lauren yn derbyn eu tystysgrifau gan Michelle Brown AC

Llysgenhadon Dy Gynulliad yn derbyn eu tystysgrifau

Ddydd Gwener 5 Mai, derbyniodd Alice a Lauren, sydd wedi rhedeg eu sesiynau eu hunain er mwyn addysgu pobl ifanc eraill am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu Tystysgrif Llysgennad Dy Gynulliad gan Michelle Brown AC, eu Haelod Cynulliad Rhanbarthol dros ogledd Cymru Cyflwynodd Alice ei sesiwn i grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 yn ei hysgol, sef […]

Darllen mwy
Girlguiding Cymru yn derbyn hyfforddiant gan y Cynulliad yn Bron Eirion

Llysgennad Dy Gynulliad – Kes o Girlguiding Cymru

Helo, bawb. Fy enw i yw Kes Triggs ac rwy’n 13 mlwydd oed. Rwy’n byw yn nhref Abermaw ar arfordir Gogledd Cymru, ac rwy’n mynd i’r ysgol yn Harlech. Rwyf hefyd yn Geid. Pan oeddwn yn 5 oed, ymunais â Geidiaid Cymru ar lefel ‘Enfys’, ac yna cefais fy nyrchafu yn un o’r ‘Brownis’, ac […]

Darllen mwy
Logo Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff

Llysgennad Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Gatholig Joseff Sant

Gan Alex Willis, disgybl yn Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Casnewydd.   Ddydd Mercher 22 Mawrth, roeddwn wedi trefnu mynd i ddadl Materion Ieuenctid yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid oeddwn i am eiliad wedi dychmygu’r fath le y byddwn i’n camu mewn iddo wrth i mi adael gorsaf y tiwb yn San Steffan. Roedd yn adeg […]

Darllen mwy

Llysgennad Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Albany

Shwmae Cymru! Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Ysgol Gynradd Albany yn y Rhath, Caerdydd. Ar hyn o bryd rydym yn cymryd rhan mewn llawer o brosiectau i helpu i wella ein hysgol. Ein prosiect diweddaraf oedd paratoi holiadur yn gofyn i ddisgyblion Ysgol Albany sut y maent yn teimlo am addysg a’u profiadau dysgu. Mae pob […]

Darllen mwy
Matthew Walker gyda Llywydd a Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Siambr y Senedd.

Lansio Ymgynghoriad Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru (CPPIC)

Gan Matt Walker – Cadeirydd CYPAW Ar 8 Chwefror 2017 lansiodd yr ymgyrch ar gyfer Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ei adroddiad, ‘Ymgynnull am Gymru’- Diwedd pennod tair blynedd yn ein hanes ac, mewn sawl ffordd, dechrau’r bennod nesaf. Ffurfiwyd yr ymgyrch hon gan ymddiriedolwyr y Ddraig Ffynci dair blynedd yn ôl yn sgîl dirwyn […]

Darllen mwy

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Ymchwiliad i dyfodol S4C

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol S4C. Mae’r ymchwiliad yn adeiladu ar safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor, a gyhoeddwyd yn eu adroddiad ‘ Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal adolygiad o S4C yn 2017. Mae’r […]

Darllen mwy
A junior school council

Llysgennad Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Gynradd Wirfoddol Cleddau Reach

Shwmae! Rydyn ni’n aelodau blwyddyn 6 o Gyngor Ysgol Cleddau Reach. Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd gan ein Cyngor Ysgol ynghylch sut i wella ein cymunedau lleol. Yfed yng Nghymru Rydyn ni’n credu’n gryf na ddylai neb yng Nghymru gael gyrru ar ôl yfed alcohol. Os yw pobl yn yfed rydyn ni’n credu y […]

Darllen mwy

Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith?

Rydw i’n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi’r enwau a dynnir allan o’r het ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan […]

Darllen mwy

Sgowtiaid Afanc Bethesda yn cychwyn ar eu Bathodyn Her Democratiaeth

Mae Sgowtiaid Afanc Bethesda wedi cychwyn ar gwblhau gofynion er mwyn derbyn eu Bathodyn Her Democratiaeth yn dilyn ymweliad gan un o swyddogion Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad, Caryl Mai Hughes. Yn ystod yr ymweliad ddydd Mawrth 29 Tachwedd, dysgodd y Sgowtiaid Afanc am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys beth mae’r Cynulliad yn gyfrifol […]

Darllen mwy
Diwrnod hyfforddiant Cynllun Llysgennad Dy Gynulliad yn Bron Eirion

Llysgennad Dy Gynulliad – Alice o Girlguiding Cymru

Fy enw i yw Alice Cleave ac rwy’n aelod o’r Uwch Adran sy’n adran o Geidiaid i ferched 14-25. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Geidiaid ers 8 mlynedd ac wedi cael llawer o gyfleoedd. Yn ystod hanner tymor yr Hydref es i ac un o fy ffrindiau o’r Geidiaid i aros ym Mronerion (Pencadlys […]

Darllen mwy

Hacio’n Holi yn y Senedd

Pob ifanc yn mynnu llais! Bob blwyddyn bellach, mae criw Hacio (rhaglen materion cyfoes i bobl ifanc) yn dod draw i’r Senedd ym Mae Caerdydd i ffilmio eu rhaglen arbennig, Hacio’n Holi, ac yn dilyn hynny, i gynnal trafodaeth â rhai o Aelodau’r Cynulliad yn Siambr Hywel (siambr drafod ar gyfer pobl ifanc). Ar y […]

Darllen mwy

Datganiadau 90 eiliad yn bywiogi trafodion y Cynulliad

Bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael cyfle i godi materion amserol a lleol mewn slotiau 90 eiliad newydd yn y Cyfarfod Llawn. Cyfarfod 60 o Aelodau’r Cynulliad yw’r Cyfarfod Llawn, ac mae’n cael ei gynnal yn y Siambr ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Dyma’r prif fforwm i Aelodau’r Cynulliad gyflawni eu rôl i […]

Darllen mwy

Y Llywydd yn ymrwymo i sefydlu Senedd Ieuenctid

Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi ei bwriad i weithio tuag at sefydlu Senedd Ieuenctid. Gwnaeth yr ymrwymiad tra’n ymateb i gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn 19 Hydref. I wylio’r holl ddadl ar Senedd.tv cliciwh yma. Ers y cwestiwn cychwynol bu i’r Cynulliad benderfynu yn unfrydol i […]

Darllen mwy

Hyfforddi’r hyfforddwr: Gweithwyr Proffesiynol

Eisiau dysgu mwy am Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Ar ddydd Mawrth 22 Tachwedd byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i addysgu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc am waith y Cynulliad. Bydd yr hyfforddiant yn eich grymuso a’ch galluogi i gyflwyno gweithdai ar y Cynulliad i bobl ifanc yn eich cymunedau. […]

Darllen mwy
Pobl ifanc yn cyfrannu tuag at weithagredd y Cynulliad

6 ffordd o ymgysylltu â’r Cynulliad

Oeddech chi’n gwybod bod gennych yr hawl i fynegi eich barn pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud? Mae hyn wedi’i nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae gan wefan y Comisiynydd Plant, Sally Holland, ragor o wybodaeth am yr hawliau i gyd. Er mwyn sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei […]

Darllen mwy