Tag Archives | Caru Wythnos Gwaith Ieuenctid

Alice a Lauren yn derbyn eu tystysgrifau gan Michelle Brown AC

Llysgenhadon Dy Gynulliad yn derbyn eu tystysgrifau

Ddydd Gwener 5 Mai, derbyniodd Alice a Lauren, sydd wedi rhedeg eu sesiynau eu hunain er mwyn addysgu pobl ifanc eraill am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu Tystysgrif Llysgennad Dy Gynulliad gan Michelle Brown AC, eu Haelod Cynulliad Rhanbarthol dros ogledd Cymru Cyflwynodd Alice ei sesiwn i grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 yn ei hysgol, sef […]

Darllen mwy

Y Llywydd yn ymrwymo i sefydlu Senedd Ieuenctid

Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi ei bwriad i weithio tuag at sefydlu Senedd Ieuenctid. Gwnaeth yr ymrwymiad tra’n ymateb i gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn 19 Hydref. I wylio’r holl ddadl ar Senedd.tv cliciwh yma. Ers y cwestiwn cychwynol bu i’r Cynulliad benderfynu yn unfrydol i […]

Darllen mwy

Hyfforddi’r hyfforddwr: Gweithwyr Proffesiynol

Eisiau dysgu mwy am Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Ar ddydd Mawrth 22 Tachwedd byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i addysgu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc am waith y Cynulliad. Bydd yr hyfforddiant yn eich grymuso a’ch galluogi i gyflwyno gweithdai ar y Cynulliad i bobl ifanc yn eich cymunedau. […]

Darllen mwy
Wobrwyo Gwaith Ieuenctid Cynhaliwyd

Gwaith Ieuenctid Cymru 2016 – Noson Gwobrwyo Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid 2016

Nos Wener, 24 Mehefin 2016, cynhaliwyd y noson flynyddol i Wobrwyo Gwaith Ieuenctid. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno, ac roedd dros 150 o bobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a chynrychiolwyr sefydliadau yn bresennol gan gynnwys Caryl Hughes o’r tîm ni yn y Cynulliad. Ar ôl cyrraedd, roedd cyfle i bawb gofrestru ac i ymweld […]

Darllen mwy
Ysgol y Gader

Gwaith Ieuenctid Cymru 2016 – Blog Gwadd gan y Tîm Ymweliada

Erthygl wadd gan Gareth Coombes – Rheolwr Teithiau i Ymwelwyr Fy enw i yw Gareth Coombes ac rwy’n Rheolwr Teithiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, felly rwy’n cael y fraint o ddarparu teithiau tywys ac o wneud cyflwyniadau ar gyfer amrywiaeth eang o bobl am waith y Cynulliad. Byddaf yn gweld grwpiau o ysgolion, grwpiau o […]

Darllen mwy
Kelly Harris Collage

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2016 – “Pam rwy’n gwirioni ar waith ieuenctid” gan Kelly Harris

Erthygl wadd gan Kelly Harris – Swyddog Ymgysylltu ag Ieuenctid Fy swydd i, yn gryno, yw gweithio gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru i roi gwybod iddynt am y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ennyn eu diddordeb yn ei waith ac esbonio sut y gallant fod yn rhan ohono. Rwy’n gwirioni ar y gwaith. Mae’n […]

Darllen mwy
Llais Ifanc

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2016 – Cynllun Llysgennad Dy Gynulliad

Beth yw’r Cynllun Llysgennad Dy Gynulliad? Sesiwn hyfforddiant ddiddorol a llawn hwyl i addysgu pobl ifanc am waith y Cynulliad yw’r Cynllun Llysgennad Dy Gynulliad. Y nod yw eu grymuso a’u galluogi i fynd i’w cymunedau lleol i gyflwyno gweithdai ar y Cynulliad i bobl ifanc eraill.   Mae’r hyfforddiant yn cynnwys: Gweithdy ‘Beth yw […]

Darllen mwy
Ysgol Bryn y Mor

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2016 – Ymweliadau â Siambr Hywel

A ddylid trethu diodydd llawn siwgr? A ddylid gostwng yr oed pleidleisio i 16? A ddylid gwahardd pobl ifanc rhag prynu diodydd egni? Dyma rhai o’r pynciau y gallech chi fod yn eu trafod yn ystod ymweliad addysg â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Mari, Iestyn ac Olwen, y Tîm Addysg ym Mae Caerdydd, yn hapus […]

Darllen mwy
Lluniau o bobl ifanc ar draws Cymru

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2016

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd Cymru yn dathlu’r gwaith ieuenctid rhagorol sy’n digwydd ledled y wlad – cyfle i ddathlu llwyddiannau pobl ifanc a chyfle i ddathlu’r gefnogaeth a gânt gan weithwyr ieuenctid pwrpasol. Mae’n gyfle perffaith i Wasanaeth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad dynnu sylw, drwy gydol yr Wythnos Gwaith […]

Darllen mwy