Tag Archives | AelodauCynulliad

Pobl ifanc y Pod a Aelodau Cynulliad Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC

Pobl ifanc Caergybi yn holi eu Haelodau Cynulliad

Ychydig wythnosau yn ôl, aeth Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC, dau o Aelodau Rhanbarthol Gogledd Cymru, i gwrdd â phobl ifanc sy’n ymweld â Pod Ieuenctid Caergybi, Ynys Môn. Yn dilyn ymweliad gan y tîm ymgysylltu â phobl ifanc, pan gafodd y bobl ifanc gyfle i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r hyn […]

Darllen mwy
Alice a Lauren yn derbyn eu tystysgrifau gan Michelle Brown AC

Llysgenhadon Dy Gynulliad yn derbyn eu tystysgrifau

Ddydd Gwener 5 Mai, derbyniodd Alice a Lauren, sydd wedi rhedeg eu sesiynau eu hunain er mwyn addysgu pobl ifanc eraill am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu Tystysgrif Llysgennad Dy Gynulliad gan Michelle Brown AC, eu Haelod Cynulliad Rhanbarthol dros ogledd Cymru Cyflwynodd Alice ei sesiwn i grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 yn ei hysgol, sef […]

Darllen mwy
#SeneddCasnewydd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dod i Gasnewydd #SeneddCasnewydd

#SeneddCasnewydd yw’r trydydd tro i Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynd ar daith, ar ôl ymweld ag Abertawe a Wrecsam yn 2015. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas rhwng 20-25 Mawrth, gan weithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol a ieuenctid. Fel tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y […]

Darllen mwy
Matthew Walker gyda Llywydd a Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Siambr y Senedd.

Lansio Ymgynghoriad Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru (CPPIC)

Gan Matt Walker – Cadeirydd CYPAW Ar 8 Chwefror 2017 lansiodd yr ymgyrch ar gyfer Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ei adroddiad, ‘Ymgynnull am Gymru’- Diwedd pennod tair blynedd yn ein hanes ac, mewn sawl ffordd, dechrau’r bennod nesaf. Ffurfiwyd yr ymgyrch hon gan ymddiriedolwyr y Ddraig Ffynci dair blynedd yn ôl yn sgîl dirwyn […]

Darllen mwy
Lauren a'r Brownies yn ystod y sesiwn

Llysgennad Dy Gynulliad – Lauren o Girlguiding Cymru

Fy enw i yw Lauren Kerr ac rwy’n aelod o’r Senior Section sy’n rhan o Girlguiding. Rwyf wedi bod yn aelod o Girlguiding ers 8 mlynedd ac yn ystod yr amser hwnnw rwyf wedi cael llawer o brofiadau ac wedi dysgu sgiliau newydd ar hyd y ffordd. Yn ystod hanner tymor mis Hydref y llynedd, […]

Darllen mwy

Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith?

Rydw i’n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi’r enwau a dynnir allan o’r het ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan […]

Darllen mwy
Diwrnod hyfforddiant Cynllun Llysgennad Dy Gynulliad yn Bron Eirion

Llysgennad Dy Gynulliad – Alice o Girlguiding Cymru

Fy enw i yw Alice Cleave ac rwy’n aelod o’r Uwch Adran sy’n adran o Geidiaid i ferched 14-25. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Geidiaid ers 8 mlynedd ac wedi cael llawer o gyfleoedd. Yn ystod hanner tymor yr Hydref es i ac un o fy ffrindiau o’r Geidiaid i aros ym Mronerion (Pencadlys […]

Darllen mwy

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Dydd Llun 7 Tachwedd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) newydd. Mae’r Bil yn nodi cyfres o gynigion mewn meysydd pwysig yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus a gallai’r cynigion hyn gael effaith bwysig ar bobl ifanc Cymru. Beth y mae’r Bil yn ei wneud? Mae’r Bil yn cynnwys cynigion ar yr isod: […]

Darllen mwy

Datganiadau 90 eiliad yn bywiogi trafodion y Cynulliad

Bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael cyfle i godi materion amserol a lleol mewn slotiau 90 eiliad newydd yn y Cyfarfod Llawn. Cyfarfod 60 o Aelodau’r Cynulliad yw’r Cyfarfod Llawn, ac mae’n cael ei gynnal yn y Siambr ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Dyma’r prif fforwm i Aelodau’r Cynulliad gyflawni eu rôl i […]

Darllen mwy
Grŵp o bobl ifanc

Iechyd meddwl a thrafnidiaeth ymhlith y pryderon i bobl ifanc Ynys Môn

Gwasanaethau iechyd meddwl a thrafnidiaeth oedd dau o’r prif bryderon i grŵp o bobl ifanc Ynys Môn ar ôl iddynt gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau i ddysgu am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefo’r tîm ymgysylltu â phobl ifanc. Mae 10 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, â chymorth yr elusen Digartref, wedi […]

Darllen mwy