Pobl Ifanc, Gwleidyddiaeth a Democratiaeth yng Nghymru

Croeso i'n gwefan - Dy Gynulliad di. Mae hon yn wefan bwrpasol i bobl ifanc ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru - yr hyn mae'n ei wneud a sut mae'n effeithio ar bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru. Dylai pawb yng Nghymru gael llais yn y ffordd y mae eu gwlad yn cael ei rhedeg, ac un ffordd o sicrhau hynny yw pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond beth os nad wyt ti'n ddigon hen i bleidleisio? Neu'n teimlo nad wyt ti'n gwybod digon am wleidyddiaeth i bleidleisio? Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth a sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed yng Nghymru, a bydd y wefan hon yn dangos sut! Rydym am i bobl ifanc fod wrth wraidd y wefan hon, felly gwna’n siŵr dy fod yn cymryd rhan drwy Twitter, Facebook neu drwy e-bostio dygynulliad@cynulliad.cymru.

Beth yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

Beth sy’n cael ei ddweud?RSS

Blog Cyngor Ysgol Gynradd Parc Hendredenny

Bob blwyddyn, mae’r disgyblion yn ethol cyngor ysgol, ond nid yw’r athrawon yn cael pleidleisio. Felly, er mwyn gwybod pwy i bleidleisio drosto, rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu ar ddarn o bapur yr hyn y maent yn mynd i’w wneud ar gyfer yr ysgol. Wrth bleidleisio, rhaid i bawb gau ei lygaid i sicrhau nad yw […]

Darllen mwy
.
Pobl ifanc y Pod a Aelodau Cynulliad Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC

Pobl ifanc Caergybi yn holi eu Haelodau Cynulliad

Ychydig wythnosau yn ôl, aeth Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC, dau o Aelodau Rhanbarthol Gogledd Cymru, i gwrdd â phobl ifanc sy’n ymweld â Pod Ieuenctid Caergybi, Ynys Môn. Yn dilyn ymweliad gan y tîm ymgysylltu â phobl ifanc, pan gafodd y bobl ifanc gyfle i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r hyn […]

Darllen mwy
.
Alice a Lauren yn derbyn eu tystysgrifau gan Michelle Brown AC

Llysgenhadon Dy Gynulliad yn derbyn eu tystysgrifau

Ddydd Gwener 5 Mai, derbyniodd Alice a Lauren, sydd wedi rhedeg eu sesiynau eu hunain er mwyn addysgu pobl ifanc eraill am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu Tystysgrif Llysgennad Dy Gynulliad gan Michelle Brown AC, eu Haelod Cynulliad Rhanbarthol dros ogledd Cymru Cyflwynodd Alice ei sesiwn i grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 yn ei hysgol, sef […]

Darllen mwy
.
Emily a'r holl disgyblion yn Ysgol Pentre, Y Waun

Llysgennad Dy Gynulliad – Emily o Girlguiding Cymru

Helo. Fy enw i yw Emily Jones ac rwy’n 13 oed ac yn dod o’r Waun, Gogledd Cymru. Ym mis Chwefror eleni, cymerodd mudiad y Girl Guides, yr wyf yn aelod ohono, ran mewn gwyliau cymorth cyntaf / meddygol ym Mroneirion, sef pencadlys y mudiad. Fe wnaethom ddysgu llawer o bethau diddorol am beth i’w […]

Darllen mwy
.

Senedd Ieuenctid Newydd i Gymru

DIOLCH. Ar 19 Hydref 2016, yn dilyn pleidlais unfrydol o gefnogaeth gan Aelodau’r Cynulliad, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, a chyhoeddodd y Llywydd Elin Jones AC ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Gofynnwyd i chi sut fath o senedd ieuenctid yr oeddech am i’ch SENEDD […]

Darllen mwy
.