Pobl Ifanc, Gwleidyddiaeth a Democratiaeth yng Nghymru

Croeso i'n gwefan - Dy Gynulliad di. Mae hon yn wefan bwrpasol i bobl ifanc ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru - yr hyn mae'n ei wneud a sut mae'n effeithio ar bobl ifanc sy'n byw yng Nghymru. Dylai pawb yng Nghymru gael llais yn y ffordd y mae eu gwlad yn cael ei rhedeg, ac un ffordd o sicrhau hynny yw pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond beth os nad wyt ti'n ddigon hen i bleidleisio? Neu'n teimlo nad wyt ti'n gwybod digon am wleidyddiaeth i bleidleisio? Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth a sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed yng Nghymru, a bydd y wefan hon yn dangos sut! Rydym am i bobl ifanc fod wrth wraidd y wefan hon, felly gwna’n siŵr dy fod yn cymryd rhan drwy Twitter, Facebook neu drwy e-bostio dygynulliad@cynulliad.cymru.

Beth yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

Beth sy’n cael ei ddweud?RSS

Ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru

Ar 19 Hydref 2016, yn dilyn pleidlais unfrydol o gefnogaeth gan Aelodau’r Cynulliad, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, a chyhoeddodd y Llywydd Elin Jones AC ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Ers y cyhoeddiad hwn, rydym ni yng Nghomisiwn y Cynulliad wedi bod yn brysur […]

Darllen mwy
.

Blog: Ymgyrchu yn erbyn xenocide

Sut hwyl? Fy enw i yw Kieran ac rwy’n brentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Es i Krzyżowa yng Ngwlad Pwyl i gymryd rhan mewn prosiect o’r enw “Ymgyrchu yn erbyn ‘xenocide’” a oedd yn ystyried problemau byd-eang yn ymwneud ag […]

Darllen mwy
.
Girlguiding Cymru yn derbyn hyfforddiant gan y Cynulliad yn Bron Eirion

Llysgennad Dy Gynulliad – Kes o Girlguiding Cymru

Helo, bawb. Fy enw i yw Kes Triggs ac rwy’n 13 mlwydd oed. Rwy’n byw yn nhref Abermaw ar arfordir Gogledd Cymru, ac rwy’n mynd i’r ysgol yn Harlech. Rwyf hefyd yn Geid. Pan oeddwn yn 5 oed, ymunais â Geidiaid Cymru ar lefel ‘Enfys’, ac yna cefais fy nyrchafu yn un o’r ‘Brownis’, ac […]

Darllen mwy
.
Logo Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff

Llysgennad Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Gatholig Joseff Sant

Gan Alex Willis, disgybl yn Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Casnewydd.   Ddydd Mercher 22 Mawrth, roeddwn wedi trefnu mynd i ddadl Materion Ieuenctid yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid oeddwn i am eiliad wedi dychmygu’r fath le y byddwn i’n camu mewn iddo wrth i mi adael gorsaf y tiwb yn San Steffan. Roedd yn adeg […]

Darllen mwy
.