Archive | Ymweliadau

Swyddog addysg yn cyflwyno'r gweithdy mewn ystafell ddosbarth yn Ysgol Glanymor

Dathlu Rôl Sir Gaerfyrddin yn Stori Datganoli

Nododd disgyblion Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn, 20 mlynedd ers Refferendwm Datganoli Cymru 1997 trwy gynnal gweithdy arbennig ar thema’r refferendwm. Wedi’i gyflwyno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, archwiliodd y gweithdy yr amgylchiadau y tu ôl i’r bleidlais Ie agos yn 1997, rôl bendant Sir Gaerfyrddin yn stori datganoli, a sut y gallai gwleidyddion Cymru ddefnyddio pwerau […]

Darllen mwy
Pobl Ifanc Prosiect Llais y Gymuned, Digartref Ynys Môn yn Bae Caerdydd

Blog Gwadd – Prosiect Llais y Gymuned, Digartref Ynys Môn

Mae Prosiect Llais y Gymuned Ddigartref yn anelu at sicrhau bod lleisiau pobl sydd yn dioddef digartrefedd neu yr effeithiwyd arnynt gan ddigartrefedd rywbryd, yn cael eu clywed. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn ceisio gwella gwasanaethau o ran digartrefedd ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae digartrefedd […]

Darllen mwy
Pabis: Weeping Window, Senedd, Bae Caerdydd

Pabis: Weeping Window

  Ymweliadau Ysgolion a Gweithdai am Ddim – Medi 2017 I nodi Poppies: Weeping Window yn y Senedd/ yng Nghaerdydd a Chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae rhaglen ddysgu gyffrous wedi cael ei chynllunio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd mewn partneriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd Poppies: Weeping Window yn cael ei arddangos yn […]

Darllen mwy
Eleanor a disgyblion Ysgol Licswm

Llysgennad Dy Gynulliad – Eleanor o Girlguiding Cymru

Helo, fy enw i yw Eleanor. Rydw i’n 14 oed ac yn byw ym Maes Glas, gogledd Cymru. Ym mis Chwefror, mi es i Froneirion sef Pencadlys Girl Guiding Cymru. Dysgais am bethau fel gwyddoniaeth, chwaraeon a meddygaeth ond fe wnes i hefyd ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar 15 Mehefin mi es i fy […]

Darllen mwy
Pobl ifanc y Pod a Aelodau Cynulliad Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC

Pobl ifanc Caergybi yn holi eu Haelodau Cynulliad

Ychydig wythnosau yn ôl, aeth Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC, dau o Aelodau Rhanbarthol Gogledd Cymru, i gwrdd â phobl ifanc sy’n ymweld â Pod Ieuenctid Caergybi, Ynys Môn. Yn dilyn ymweliad gan y tîm ymgysylltu â phobl ifanc, pan gafodd y bobl ifanc gyfle i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r hyn […]

Darllen mwy
Alice a Lauren yn derbyn eu tystysgrifau gan Michelle Brown AC

Llysgenhadon Dy Gynulliad yn derbyn eu tystysgrifau

Ddydd Gwener 5 Mai, derbyniodd Alice a Lauren, sydd wedi rhedeg eu sesiynau eu hunain er mwyn addysgu pobl ifanc eraill am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu Tystysgrif Llysgennad Dy Gynulliad gan Michelle Brown AC, eu Haelod Cynulliad Rhanbarthol dros ogledd Cymru Cyflwynodd Alice ei sesiwn i grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 yn ei hysgol, sef […]

Darllen mwy

Blog: Ymgyrchu yn erbyn xenocide

Sut hwyl? Fy enw i yw Kieran ac rwy’n brentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Es i Krzyżowa yng Ngwlad Pwyl i gymryd rhan mewn prosiect o’r enw “Ymgyrchu yn erbyn ‘xenocide’” a oedd yn ystyried problemau byd-eang yn ymwneud ag […]

Darllen mwy
Girlguiding Cymru yn derbyn hyfforddiant gan y Cynulliad yn Bron Eirion

Llysgennad Dy Gynulliad – Kes o Girlguiding Cymru

Helo, bawb. Fy enw i yw Kes Triggs ac rwy’n 13 mlwydd oed. Rwy’n byw yn nhref Abermaw ar arfordir Gogledd Cymru, ac rwy’n mynd i’r ysgol yn Harlech. Rwyf hefyd yn Geid. Pan oeddwn yn 5 oed, ymunais â Geidiaid Cymru ar lefel ‘Enfys’, ac yna cefais fy nyrchafu yn un o’r ‘Brownis’, ac […]

Darllen mwy

Llysgenhadon Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Albany

Shwmae Cymru! Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Ysgol Gynradd Albany yn y Rhath, Caerdydd. Ar hyn o bryd rydym yn cymryd rhan mewn llawer o brosiectau i helpu i wella ein hysgol. Ein prosiect diweddaraf oedd paratoi holiadur yn gofyn i ddisgyblion Ysgol Albany sut y maent yn teimlo am addysg a’u profiadau dysgu. Mae pob […]

Darllen mwy
#SeneddCasnewydd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dod i Gasnewydd #SeneddCasnewydd

#SeneddCasnewydd yw’r trydydd tro i Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynd ar daith, ar ôl ymweld ag Abertawe a Wrecsam yn 2015. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas rhwng 20-25 Mawrth, gan weithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol a ieuenctid. Fel tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y […]

Darllen mwy
A junior school council

Llysgenhadon Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Gynradd Wirfoddol Cleddau Reach

Shwmae! Rydyn ni’n aelodau blwyddyn 6 o Gyngor Ysgol Cleddau Reach. Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd gan ein Cyngor Ysgol ynghylch sut i wella ein cymunedau lleol. Yfed yng Nghymru Rydyn ni’n credu’n gryf na ddylai neb yng Nghymru gael gyrru ar ôl yfed alcohol. Os yw pobl yn yfed rydyn ni’n credu y […]

Darllen mwy

Myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn rhannu eu profiadau

Bu 55 o fyfyrwyr o Goleg Sir Gâr, gyda lefel academaidd o E1 drwy i E3/L1, yn cymryd rhan mewn un o ymchwiliadau’r Cynulliad, sef yr ymchwiliad ar newidiadau arfaethedig i’r fframwaith anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn ddiweddar. Mae’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) â’r nod […]

Darllen mwy

Llysgenhadon Cyngor Ysgol

Ydych chi’n dymuno ehangu’r cyfleoedd ymgysylltu sydd ar gael i’ch cyngor ysgol? Rhowch eich enw ymlaen i gofrestru fel Llysgennad Cyngor Ysgol y Cynulliad Cenedlaethol, a byddwch yn derbyn: gweithdy rhad ac am ddim yn eich ysgol, wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch amserlen; cyfle i aelodau’r cyngor benderfynu pa faterion gwleidyddol sy’n bwysig iddynt fel […]

Darllen mwy

Sgowtiaid Afanc Bethesda yn cychwyn ar eu Bathodyn Her Democratiaeth

Mae Sgowtiaid Afanc Bethesda wedi cychwyn ar gwblhau gofynion er mwyn derbyn eu Bathodyn Her Democratiaeth yn dilyn ymweliad gan un o swyddogion Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Cynulliad, Caryl Mai Hughes. Yn ystod yr ymweliad ddydd Mawrth 29 Tachwedd, dysgodd y Sgowtiaid Afanc am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys beth mae’r Cynulliad yn gyfrifol […]

Darllen mwy
mamau a'u plant

Gwleidyddiaeth yn grymuso mamau ifanc Pencader

  Yr wythnos diwethaf, cymerodd criw o famau ifanc o grŵp Pencader Plant Dewi ran mewn gweithdy democratiaeth am y tro cyntaf erioed gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar ôl dysgu am ddatganoli yng Nghymru a sut i rymuso eu hunain drwy gymryd rhan yn y system ddemocrataidd, aethant ati i greu eu rhestr eu hunain […]

Tagged with: ,
Darllen mwy