Archive | Busnes y Cynulliad

Sesiwn Llysgennad Dy Gynulliad Imogen

Sesiwn Llysgennad Dy Gynulliad – Imogen o 5ed Guides Llanisien, Caerdydd.

Fy enw i yw Imogen Blacklidge ac rwy’n aelod o 5ed Guides Llanisien. Yn ystod y gwyliau hanner tymor fis Chwefror diwethaf, es i Froneirion sef pencadlys GirlGuiding Cymru a chymryd rhan mewn sesiwn Llysgenhadon Dy Gynulliad o dan arweiniad Caryl Hughes. Gwnaethom ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gwleidyddiaeth Cymru. Roedd y sesiwn yn […]

Darllen mwy
Pobl Ifanc Prosiect Llais y Gymuned, Digartref Ynys Môn yn Bae Caerdydd

Blog Gwadd – Prosiect Llais y Gymuned, Digartref Ynys Môn

Mae Prosiect Llais y Gymuned Ddigartref yn anelu at sicrhau bod lleisiau pobl sydd yn dioddef digartrefedd neu yr effeithiwyd arnynt gan ddigartrefedd rywbryd, yn cael eu clywed. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn ceisio gwella gwasanaethau o ran digartrefedd ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae digartrefedd […]

Darllen mwy

Blog Cyngor Ysgol Gynradd Parc Hendredenny

Bob blwyddyn, mae’r disgyblion yn ethol cyngor ysgol, ond nid yw’r athrawon yn cael pleidleisio. Felly, er mwyn gwybod pwy i bleidleisio drosto, rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu ar ddarn o bapur yr hyn y maent yn mynd i’w wneud ar gyfer yr ysgol. Wrth bleidleisio, rhaid i bawb gau ei lygaid i sicrhau nad yw […]

Darllen mwy

Senedd Ieuenctid Newydd i Gymru

DIOLCH. Ar 19 Hydref 2016, yn dilyn pleidlais unfrydol o gefnogaeth gan Aelodau’r Cynulliad, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, a chyhoeddodd y Llywydd Elin Jones AC ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Gofynnwyd i chi sut fath o senedd ieuenctid yr oeddech am i’ch SENEDD […]

Darllen mwy

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Ymchwiliad i dyfodol S4C

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol S4C. Mae’r ymchwiliad yn adeiladu ar safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor, a gyhoeddwyd yn eu adroddiad ‘ Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal adolygiad o S4C yn 2017. Mae’r […]

Darllen mwy

Myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn rhannu eu profiadau

Bu 55 o fyfyrwyr o Goleg Sir Gâr, gyda lefel academaidd o E1 drwy i E3/L1, yn cymryd rhan mewn un o ymchwiliadau’r Cynulliad, sef yr ymchwiliad ar newidiadau arfaethedig i’r fframwaith anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn ddiweddar. Mae’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) â’r nod […]

Darllen mwy

Llysgenhadon Cyngor Ysgol

Ydych chi’n dymuno ehangu’r cyfleoedd ymgysylltu sydd ar gael i’ch cyngor ysgol? Rhowch eich enw ymlaen i gofrestru fel Llysgennad Cyngor Ysgol y Cynulliad Cenedlaethol, a byddwch yn derbyn: gweithdy rhad ac am ddim yn eich ysgol, wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch amserlen; cyfle i aelodau’r cyngor benderfynu pa faterion gwleidyddol sy’n bwysig iddynt fel […]

Darllen mwy
Llun o'r Senedd o'r tu allan

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Beth rydych chi’n feddwl?

Rydym am ichi roi gwybod inni beth rydych yn ei feddwl o gynnig i newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch ddweud wrthym beth yr ydych yn feddwl yma. Unrhyw gwestiynau? Anfonwch e-bost at dygynulliad@cynulliad.cymru Pam nawr? Os bydd Senedd y DU yn pasio deddf (o’r enw Mesur Cymru) yn gynnar yn 2017, pryd hynny fydd yn […]

Darllen mwy

Biliau Aelod: Sut fyddech chi’n newid y gyfraith?

Rydw i’n edrych ymlaen at ddau gyhoeddiad ar hyn o bryd: cyhoeddi enillydd balot Bil Aelod cyntaf y Pumed Cynulliad, a chyhoeddi’r enwau a dynnir allan o’r het ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cyn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bûm yn gweithio yn Japan am ddwy flynedd, felly ddweud yn saff y bydd Cwpan […]

Darllen mwy

Adroddiad: Ymchwiliad i Wasanaethau Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cynlluniau mewn lleer mwyn ceisio gwneud yn siŵr y gall yr holl bobl ifanc yng Nghymru gymryd rhan mewn prosiectau megis clybiau ieuenctid. Mae nhw hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr y gall pobl ifanccael cymorth gweithiwr ieuenctid os ydynt yn dymuno. Penderfynodd Aelodau’r Cynulliad sydd ar y Pwyllgor Plant, […]

Darllen mwy

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Dydd Llun 7 Tachwedd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) newydd. Mae’r Bil yn nodi cyfres o gynigion mewn meysydd pwysig yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus a gallai’r cynigion hyn gael effaith bwysig ar bobl ifanc Cymru. Beth y mae’r Bil yn ei wneud? Mae’r Bil yn cynnwys cynigion ar yr isod: […]

Darllen mwy

Datganiadau 90 eiliad yn bywiogi trafodion y Cynulliad

Bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael cyfle i godi materion amserol a lleol mewn slotiau 90 eiliad newydd yn y Cyfarfod Llawn. Cyfarfod 60 o Aelodau’r Cynulliad yw’r Cyfarfod Llawn, ac mae’n cael ei gynnal yn y Siambr ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Dyma’r prif fforwm i Aelodau’r Cynulliad gyflawni eu rôl i […]

Darllen mwy

Y Llywydd yn ymrwymo i sefydlu Senedd Ieuenctid

Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi ei bwriad i weithio tuag at sefydlu Senedd Ieuenctid. Gwnaeth yr ymrwymiad tra’n ymateb i gwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn 19 Hydref. I wylio’r holl ddadl ar Senedd.tv cliciwh yma. Ers y cwestiwn cychwynol bu i’r Cynulliad benderfynu yn unfrydol i […]

Darllen mwy