Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Dydd Llun 7 Tachwedd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) newydd. Mae’r Bil yn nodi cyfres o gynigion mewn meysydd pwysig yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus a gallai’r cynigion hyn gael effaith bwysig ar bobl ifanc Cymru.

llun yn ystod y dydd o'r Senedd

Beth y mae’r Bil yn ei wneud?

Mae’r Bil yn cynnwys cynigion ar yr isod:

Cynhyrchion tybaco a nicotin

  • Gwahardd ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus ar ben y cyfyngiadau presennol ar ysmygu.
  • Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin.
  • Ychwanegu at y troseddau a all arwain at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad (Mae Gorchymyn o’r fath yn gwahardd siopau rhag gwerthu cynhyrchion tybaco a nicotin am hyd at flwyddyn)
  • Gwahardd trosglwyddo cynhyrchion tybaco a nicotin a gaiff eu prynu ar–lein neu dros y ffôn i bobl o dan 18 oed

Gweithdrefnau arbennig (e.e. tyllu’r corff, tatŵio ac aciwbigo)

  • Creu cynllun trwyddedu gorfodol i reoleiddio pobl a busnesau sy’n darparu ‘triniaethau arbennig’ sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio.
  • Cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl ifanc o dan 16 oed.

Gwasanaethau fferyllol

  • Newid y modd y mae Byrddau Iechyd yn penderfynu ynghylch gwasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar asesiadau o anghenion fferyllol yn eu hardaloedd.

Darparu toiledau cyhoeddus

  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaethau toiledau lleol er mwyn darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a sicrhau mynediad atynt, yn seiliedig ar anghenion eu cymunedau.

Darllenwch ragor i gael rhagor o wybodaeth am bob rhan unigol o’r Bil.

Cynhyrchion tybaco a nicotin

Diffodd sigaréts a maes chwarae

Bydd y Mesur yn gwneud mwy i gyfyngu ar ysmygu ar dir yr ysgol, meysydd chwarae cyhoeddus ac ysbytai

O’r holl ffactorau ataliadwy sy’n achosi salwch a marwolaeth yng Nghymru, ysmygu yw’r ffactor unigol mwyaf ac mae’n achosi tua 5,450 o farwolaethau bob blwyddyn.  Mae’r Bil yn nodi nifer o dermau ynghylch ysmygu, gan gynnwys:

Gosod cyfyngiadau ar ysmygu ar dir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus

Mae llawer o ysbytai, ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus eisoes wedi gwahardd smygu eu hunain, ond gall fod yn anodd gorfodi’r gwaharddiad. Nod y Bil yw helpu awdurdodau lleol a byrddau iechyd i orfodi’r gwaharddiadau gwirfoddol hyn.

Creu cofrestr o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin

Nid oes unrhyw ffordd o olrhain manwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin ac, oherwydd hynny, mae’n anodd gorfodi cyfreithiau tybaco.  Bydd y ddarpariaeth hon yn golygu y bydd yn rhaid i’r holl fanwerthwyr yng Nghymru sy’n gwerthu naill ai cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion nicotin gofrestru i gael caniatâd i werthu’r cynhyrchion hyn.  Caiff ‘awdurdod cofrestru’ ei enwi i reoli’r gofrestr ar gyfer Cymru gyfan a bydd yn gyfrifol am gasglu enwau’r holl fanwerthwyr sy’n dymuno gwerthu cynhyrchion tybaco a’u cyhoeddi i’r cyhoedd eu gweld.

Ychwanegu at y troseddau sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre Dan Gyfyngiad.

Ar hyn o bryd, mae llys ynadon yn gallu rhoi Gorchymyn Mangre Dan Gyfyngiad i unrhyw fanwerthwr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco dro ar ôl tro i bobl ifanc o dan 18 oed.  Byddai’r Gorchymyn hwn yn gwahardd  y manwerthwr rhag gwerthu unrhyw gynhyrchion tybaco a nicotin (gan gynnwys papurau sigaréts) am hyd at flwyddyn. Mae’r Bil am wella’r Gorchmynion drwy roi pŵer i Weinidogion Cymru gynnwys mwy o droseddau tybaco y gellir eu hystyried i gyflwyno Gorchymyn Mangre Dan Gyfyngiad.

Triniaethau arbennig

Mae nifer o driniaethau cosmetig a therapiwtig, er enghraifft tyllu’r corff a thatŵio, yn dod yn gynyddol boblogaidd.  Fodd bynnag, gall y mathau hyn o driniaethau fod yn niweidiol i iechyd os cânt eu darparu o dan amgylchiadau anhylan.

Gall arferion amhriodol ac anhylan arwain at nifer o broblemau iechyd. Er enghraifft, ym mis Mai 2015 roedd pryder mawr ynghylch parlwr tatŵio a thyllu yng Nghasnewydd. Gwahoddwyd cannoedd o’i gwmseriaid i gael profion ar ôl i bum cwsmer ddioddef heintiau difrifol ar eu croen ar ôl mynd yno i dyllu eu cyrff.

Tattoo and Piercing studio

Bydd y Mesur hefyd yn gorfodi rheolaethau llymach ar tatwio a tyllu’r

Ar hyn o bryd, mae cynllun cofrestru a rhai rheolaethau ar waith i sicrhau bod lleoedd sy’n darparu’r triniaethau hyn yn ddiogel ac yn hylan.  Fodd bynnag, nid yw’n orfodol cofrestru ac nid oes cysondeb yn y modd y caiff y rheolaethau eu  gorfodi.

Mae Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) yn cynnwys cynigion i roi rheolaethau mwy pwerus ar waith i’r rhai sy’n cynnig triniaethau cosmetig a therapiwtig (y cyfeirir atynt fel triniaethau arbennig yn y Bil).  Mae’r triniaethau arbennig hyn yn cynnwys aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio; fodd bynnag, mae’r Bil hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru newid y rhestr o driniaethau arbennig yn y dyfodol.  Nod y Bil yw sicrhau bod unrhyw driniaethau arbennig a ddarperir yng Nghymru yn ddiogel ac nad ydynt yn niweidiol i iechyd neu les.

Mae’r Bil yn cynnwys cynigion ar gyfer:

Creu cynllun trwyddedu gorfodol i ymarferwyr a busnesau sy’n darparu triniaethau arbennig yng Nghymru

Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy’n darparu unrhyw un o’r triniaethau arbennig a restrir fod wedi’u trwyddedu a bod eu stiwdio wedi’i chymeradwyo.  Bydd yn drosedd i ymarferwyr ddarparu unrhyw un o’r triniaethau heb drwydded neu eu darparu mewn stiwdio nad yw wedi’i chymeradwyo.  Bydd Gweinidogion Cymru yn pennu meini prawf ac amodau trwyddedu ac yn sicrhau bod y safonau’r un fath ledled Cymru.  Bydd awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am reoli’r gofrestr o drwyddedau.

Bydd y rhai sy’n darparu’r triniaethau hefyd yn gyfrifol am roi canllawiau cyn ac ar ôl y driniaeth, i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ymwybodol o unrhyw beryglon posibl i’w hiechyd sy’n gysylltiedig â’r driniaeth, a hefyd yn gyfrifol am ddangos iddynt sut i wneud cais am unrhyw ôl-ofal ar ôl cael y driniaeth.

Cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff i bobl ifanc o dan 16 oed.

Mae llawer o broblemau posibl yn gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff os yw’r cwsmer yn blentyn neu’n berson ifanc. Mae’n bosibl y bydd rhai ohonynt yn llai tebygol o wybod sut i  lanhau a gofalu am y twll ac mae problemau fel heintiau’n fwy tebygol.  Hefyd, wrth i bobl ifanc dyfu yn ystod eu harddegau, gall twll mewn rhan bersonol o’u corff achosi problemau. Oherwydd natur y triniaethau a’r mannau personol dan sylw, gellir ystyried triniaethau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plant a phobl ifanc yn fater amddiffyn plant.

Yng Nghymru, nid oes unrhyw gyfyngiad oedran yng nghyswllt tyllu’r corff ac os yw person ifanc yn gallu deall y driniaeth y mae ar fin ei chael, gall hefyd gytuno i’w chael.  Er mwyn diogelu plant a phobl ifanc rhag unrhyw niwed posibl a allai godi o gael twll mewn rhan bersonol o’u corff, bydd y Bil yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff unrhyw un dan 16 oed.  Bydd hefyd yn ei gwneud yn drosedd gwneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff unrhyw un dan 16 oed, oed hyd yn oed os na fydd y driniaeth yn mynd rhagddi.

Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi’r rhan hon o’r Bil, gan gynnwys erlyn pobl sy’n rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff unrhyw un o dan 16 oed, ac ymchwilio i unrhyw gwynion.

Gwasanaethau fferyllol

Mae un elfen o’r Bil yn canolbwyntio ar gryfhau rôl fferyllfeydd o ran hyrwyddo a diogelu iechyd cyhoeddus.  Nod y Bil yw gwneud hyn drwy newid y ffordd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am fferyllfeydd i sicrhau bod y gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn cydnaws â’r  gymuned y maent yn eu gwasanaethu.

Ydych chi'n gwybod yr holl wasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol?

Ydych chi’n gwybod yr holl wasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol?

Ar hyn o bryd, wrth ystyried a ddylid caniatáu i rywun ddarparu gwasanaethau fferyllol, yr unig beth y mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn ei ystyried yw nifer y fferyllfeydd sy’n gallu gweinyddu presgripsiynau. Mae’r Bil yn ystyried yr ystod o wasanaethau ychwanegol y gall fferyllfa eu darparu i’r gymuned.

O dan y Bil, bydd y Byrddau Iechyd yn gorfod ystyried yr ystod lawn o wasanaethau y gall fferyllfeydd eu cynnig, yn hytrach na dim ond gweinyddu presgripsiynau, wrth adolygu ceisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol. Gall y gwasanaethau gynnwys adolygu meddyginiaeth, rhoi pigiadau ffliw ac ymdrin ag ymholiadau ynghylch iechyd rhywiol.  Bydd angen iddynt hefyd gynnal “asesiadau o anghenion fferyllol” yn eu hardaloedd i weld i ba raddau y mae’r fferyllfeydd presennol yn eu hardaloedd yn llwyddo i wasanaethu eu cymunedau.

Darparu toiledau

Nodwyd bod darparu digon o doiledau cyhoeddus yn fater pwysig iawn o ran iechyd.  Nod Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) yw gwella’r broses o gynllunio toiledau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn diwallu anghenion eu cymuned yn well.

arwydd toiled

Bydd y Bil yn gorfodi awdurdodau lleol i edrych i mewn cyfleusterau toiled yn eu hardaloedd

O dan y Bil, bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.  Rhaid i hyn gynnwys ymchwilio i’r angen i ddarparu toiledau cyhoeddus yn y gymuned (gan gynnwys toiledau ar gyfer pobl anabl ac i newid clytiau babanod) a chynllunio sut y bydd yr awdurdod lleol yn diwallu’r angen hwn.

Wrth baratoi’r cynlluniau, rhaid ystyried barn y bobl leol, a rhaid eu hadolygu’n rheolaidd.

Nid yw’r Bil yn gorfodi awdurdodau lleol i ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus ond mae’n eu gorfodi i baratoi strategaeth ar gyfer eu hardaloedd i ddarparu’r cyfleusterau hyn i’r boblogaeth leol a sicrhau mynediad atynt.

, , ,

No comments yet.

Leave a Reply