Beth sy’n cael ei ddweud?

Beth sy’n cael ei ddweud?

Ewch i'n blog i ddarganfod barn pobl ifanc am wleidyddiaeth, materion sy'n ymwneud â'u bywydau a'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru.


Senedd Ieuenctid Newydd i Gymru

Ar 19 Hydref 2016, yn dilyn pleidlais unfrydol o gefnogaeth gan Aelodau’r Cynulliad, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, a chyhoeddodd y Llywydd Elin Jones AC ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Ar ôl gweithio gyda’r aelodau o’n grŵp llywio allanol, pleser mawr yw cael cyhoeddi […]

Darllen mwy

Blog Cyngor Ysgol Gynradd Parc Hendredenny

Bob blwyddyn, mae’r disgyblion yn ethol cyngor ysgol, ond nid yw’r athrawon yn cael pleidleisio. Felly, er mwyn gwybod pwy i bleidleisio drosto, rhaid i’r ymgeiswyr ysgrifennu ar ddarn o bapur yr hyn y maent yn mynd i’w wneud ar gyfer yr ysgol. Wrth bleidleisio, rhaid i bawb gau ei lygaid i sicrhau nad yw […]

Darllen mwy
Pobl ifanc y Pod a Aelodau Cynulliad Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC

Pobl ifanc Caergybi yn holi eu Haelodau Cynulliad

Ychydig wythnosau yn ôl, aeth Mark Isherwood AC a Michelle Brown AC, dau o Aelodau Rhanbarthol Gogledd Cymru, i gwrdd â phobl ifanc sy’n ymweld â Pod Ieuenctid Caergybi, Ynys Môn. Yn dilyn ymweliad gan y tîm ymgysylltu â phobl ifanc, pan gafodd y bobl ifanc gyfle i ddysgu am Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r hyn […]

Darllen mwy
Alice a Lauren yn derbyn eu tystysgrifau gan Michelle Brown AC

Llysgenhadon Dy Gynulliad yn derbyn eu tystysgrifau

Ddydd Gwener 5 Mai, derbyniodd Alice a Lauren, sydd wedi rhedeg eu sesiynau eu hunain er mwyn addysgu pobl ifanc eraill am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu Tystysgrif Llysgennad Dy Gynulliad gan Michelle Brown AC, eu Haelod Cynulliad Rhanbarthol dros ogledd Cymru Cyflwynodd Alice ei sesiwn i grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 yn ei hysgol, sef […]

Darllen mwy
Emily a'r holl disgyblion yn Ysgol Pentre, Y Waun

Llysgennad Dy Gynulliad – Emily o Girlguiding Cymru

Helo. Fy enw i yw Emily Jones ac rwy’n 13 oed ac yn dod o’r Waun, Gogledd Cymru. Ym mis Chwefror eleni, cymerodd mudiad y Girl Guides, yr wyf yn aelod ohono, ran mewn gwyliau cymorth cyntaf / meddygol ym Mroneirion, sef pencadlys y mudiad. Fe wnaethom ddysgu llawer o bethau diddorol am beth i’w […]

Darllen mwy

Ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru

Ar 19 Hydref 2016, yn dilyn pleidlais unfrydol o gefnogaeth gan Aelodau’r Cynulliad, cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, a chyhoeddodd y Llywydd Elin Jones AC ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Ers y cyhoeddiad hwn, rydym ni yng Nghomisiwn y Cynulliad wedi bod yn brysur […]

Darllen mwy

Blog: Ymgyrchu yn erbyn xenocide

Sut hwyl? Fy enw i yw Kieran ac rwy’n brentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gweithio ar hyn o bryd gyda’r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Es i Krzyżowa yng Ngwlad Pwyl i gymryd rhan mewn prosiect o’r enw “Ymgyrchu yn erbyn ‘xenocide’” a oedd yn ystyried problemau byd-eang yn ymwneud ag […]

Darllen mwy
Girlguiding Cymru yn derbyn hyfforddiant gan y Cynulliad yn Bron Eirion

Llysgennad Dy Gynulliad – Kes o Girlguiding Cymru

Helo, bawb. Fy enw i yw Kes Triggs ac rwy’n 13 mlwydd oed. Rwy’n byw yn nhref Abermaw ar arfordir Gogledd Cymru, ac rwy’n mynd i’r ysgol yn Harlech. Rwyf hefyd yn Geid. Pan oeddwn yn 5 oed, ymunais â Geidiaid Cymru ar lefel ‘Enfys’, ac yna cefais fy nyrchafu yn un o’r ‘Brownis’, ac […]

Darllen mwy
Logo Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff

Llysgennad Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Gatholig Joseff Sant

Gan Alex Willis, disgybl yn Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Casnewydd.   Ddydd Mercher 22 Mawrth, roeddwn wedi trefnu mynd i ddadl Materion Ieuenctid yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid oeddwn i am eiliad wedi dychmygu’r fath le y byddwn i’n camu mewn iddo wrth i mi adael gorsaf y tiwb yn San Steffan. Roedd yn adeg […]

Darllen mwy

Llysgennad Dy Gynulliad – Cyngor Ysgol Albany

Shwmae Cymru! Ni yw cynrychiolwyr Cyngor Ysgol Gynradd Albany yn y Rhath, Caerdydd. Ar hyn o bryd rydym yn cymryd rhan mewn llawer o brosiectau i helpu i wella ein hysgol. Ein prosiect diweddaraf oedd paratoi holiadur yn gofyn i ddisgyblion Ysgol Albany sut y maent yn teimlo am addysg a’u profiadau dysgu. Mae pob […]

Darllen mwy
#SeneddCasnewydd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dod i Gasnewydd #SeneddCasnewydd

#SeneddCasnewydd yw’r trydydd tro i Cynulliad Cenedlaethol Cymru fynd ar daith, ar ôl ymweld ag Abertawe a Wrecsam yn 2015. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas rhwng 20-25 Mawrth, gan weithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol a ieuenctid. Fel tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y […]

Darllen mwy
Matthew Walker gyda Llywydd a Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Siambr y Senedd.

Lansio Ymgynghoriad Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru (CPPIC)

Gan Matt Walker – Cadeirydd CYPAW Ar 8 Chwefror 2017 lansiodd yr ymgyrch ar gyfer Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ei adroddiad, ‘Ymgynnull am Gymru’- Diwedd pennod tair blynedd yn ein hanes ac, mewn sawl ffordd, dechrau’r bennod nesaf. Ffurfiwyd yr ymgyrch hon gan ymddiriedolwyr y Ddraig Ffynci dair blynedd yn ôl yn sgîl dirwyn […]

Darllen mwy

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Ymchwiliad i dyfodol S4C

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol S4C. Mae’r ymchwiliad yn adeiladu ar safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor, a gyhoeddwyd yn eu adroddiad ‘ Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru’. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal adolygiad o S4C yn 2017. Mae’r […]

Darllen mwy

Wythnos gyda Rhun ap Iorwerth Aelod Cynulliad, Ynys Môn

Blog gwadd gan Iestyn Hughes Fy enw i ydy Iestyn Hughes, a dwi’n raddedig mewn Hanes a Gwleidyddiaeth. Yn ystod yr wythnos rhwng 31 Ionawr a 3 Chwefror roeddwn i ar brofiad gwaith gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn. Treuliais tri diwrnod yn ei swyddfa etholiadol yn Llangefni a dau ddiwrnod […]

Darllen mwy

Archif